Caerdydd yn drydydd yn y rhestr o brifddinasoedd gorau Ewrop
Yn dilyn arolwg newydd gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Caerdydd yn drydydd yn y rhestr o brifddinasoedd gorau Ewrop ac yn rhagori ar rai o ddinasoedd enwocaf y byd.
Canolfan gyswllt Traveline yn dathlu gyda’r goreuon o ddiwydiant canolfannau cyswllt Cymru
Bu gweithwyr Traveline Cymru yn dathlu gyda’r goreuon o ddiwydiant canolfannau cyswllt Cymru yn ddiweddar ar ôl i’w canolfan gyswllt – Contact Centre Cymru – gyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru 2017.
Gyrwyr bysiau Stagecoach gyda’r gorau mewn cynllun i hybu gyrru’n ddiogel gan arbed tanwydd
Mae gweithwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn cynllun byd-eang i fesur perfformiad, sy’n asesu’r graddau y mae gyrwyr yn gyrru’n ddiogel gan arbed tanwydd.
Datganiad ysgrifenedig ynghylch Cerdyn Teithio Ieuenctid. Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Mae annog mwy o bobl ifanc i deithio ar y rhwydwaith bysiau yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyna pam yr ydym wedi bod yn ariannu cynllun peilot ers mis Medi 2015, sy’n cynnig teithiau rhatach ar fysiau i bobl ifanc, dan y brand “FyNgherdynTeithio”.
POBL YN ARBED £1,000 Y FLWYDDYN WRTH DDEFNYDDIO’R BWS YN LLE’R CAR I DEITHIO I’R GWAITH, YN ÔL AROLWG
Mae ymchwil genedlaethol newydd wedi darganfod bod pobl sy’n defnyddio’r bws i deithio i’r gwaith yn arbed £1,000 ar gyfartaledd, o’u cymharu â’r sawl sy’n teithio i’r gwaith mewn car.
Clwb 55 Arriva – y cynnig ar gyfer teithio yn ystod oriau nad ydynt yn oriau brig i bawb sy’n 55 oed neu’n hŷn
Mae Clwb 55 Arriva yn gynnig arbennig, a fydd yn eich galluogi i deithio i unrhyw le ar rwydwaith Trenau Arriva Cymru a thu hwnt am gyn lleied â £26 am docyn dwyffordd.
Mae llawer o weithredwyr yn bwriadu dod â’u gwasanaethau i ben yn gynnar ar Noswyl Nadolig a Nos Galan. O ganlyniad, efallai na fydd ein cynlluniwr taith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, felly cofiwch fynd i’n tudalen ynghylch Teithio dros y Nadolig i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.