Traveline Cymru yn lansio gwasanaeth gwybodaeth newydd i fyfyrwyr
Mae Traveline Cymru, sef gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi lansio gwefan wybodaeth newydd yn benodol i fyfyrwyr.
Ymestyn oriau agor Canolfan Gyswllt Traveline Cymru tan 11pm oherwydd streic tacsis Caerdydd
Mae Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn ymestyn ei horiau agor tan 11pm ar ddydd Gwener 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill oherwydd y streic a gynllunnir gan dacsis Caerdydd.
Bysiau Stagecoach Yn Y De Yn Defnyddio Cardiau Clyfar. Cynnig Arbennig - Megarider Gold Bellach Yn £19 Yr Wythnos Yn Gyda Megarider Xtra Gold
Mae technoleg CERDYN CLYFAR wedi’i chyflwyno ar fysiau yn ne Cymru gan y gweithredwr bysiau Stagecoach, a bydd modd i ddefnyddwyr bysiau ar draws y rhanbarth elwa ar ostyngiadau o hyd at 20% os ydynt yn teithio’n rheolaidd.
Bydd gwasanaeth bws yn rhedeg drwy’r nos yng Nghaerdydd os bydd y gyrwyr tacsis yn penderfynu bwrw ymlaen â’r streic
Bydd penaethiaid gwasanaethau cludiant yn cynnig gwasanaeth bws drwy’r nos yng Nghaerdydd os bydd y gyrwyr tacsis yn penderfynu bwrw ymlaen â’r streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y mis yma.
Traveline Cymru yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire
Mae Traveline Cymru, gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire yng nghategori’r sector cyhoeddus.
Yr orsaf drenau yng Nghymru sydd wedi gweld cynnydd o 2,100% yn nifer y teithwyr
Mae dadansoddiad newydd wedi datgelu sut y mae’r atgyfodiad ym mhoblogrwydd teithio ar y trên ynghyd â buddsoddiad wedi trawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Cynllun fyngherdynteithio yn dathlu ei 5,000fed aelod
Mae mwy na 5,000 o bobl ifanc wedi cael fyngherdynteithio ac yn cael budd ohono. Mae hwn yn gynllun sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig gostyngiad ar deithiau bws i bobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru, ers iddo gael ei lansio chwe mis yn ôl.
Bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn newid dros gyfnod y Pasg. Mae ein cynlluniwr taith yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd â’r wybodaeth ddiweddaraf am batrymau gwasanaeth.
Disgyblion meithrin wrth eu bodd ar y bws yn ystod ymweliad ysgol
Daeth un o fysiau Bws Caerdydd i ymweld â disgyblion meithrin Ysgol Gynradd Marlborough yn y Rhath yn rhan o’r gwaith mae’r disgyblion yn ei wneud ar drafnidiaeth.
Mae fyngherdynteithio yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n galluogi pobl ifanc 16, 17 ac 18 oed i gael 1/3 oddi ar bris tocynnau bws yng Nghymru.
Mae Bws Arfordir Llŷn yn wasanaeth bysiau newydd a fydd yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd-orllewin o fis Mawrth. Bydd y gwasanaeth yn dilyn amserlen benodol a bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth hyblyg mewn ardaloedd gwledig.
Arolwg yn dangos bod teithio ar y bws yn y de £1,400 y flwyddyn yn rhatach na theithio i’r gwaith yn y car, er gwaetha’r gostyngiad ym mhris tanwydd
Mae ymchwil cenedlaethol newydd wedi darganfod y gall y sawl sy’n teithio i’r gwaith arbed oddeutu £1,400 y flwyddyn drwy ddal y bws yn lle teithio yn y car, er gwaetha’r gostyngiad ym mhris tanwydd.
Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.
Roedd digon o ddŵr yn llifo dros Sgŵd Gwladus heddiw i groesawu deg o fyfyrwyr twristiaeth o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, a oedd wedi teithio ar y bws ‘Clipiwr’ X55 o Abertawe i ardal y rhaeadrau yng Nghwm Nedd i fwynhau antur.
Mae PTI Cymru, y sefydliad ymbarél sy’n rhedeg Contact Centre Cymru a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi cyhoeddi ei fod wedi penodi Sian Musk i swydd newydd, sef swydd Rheolwr Gweithrediadau.
First Cymru am godi’ch calon ar Ddydd Llun Digalon
Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn helpu i godi calonnau pobl ar Ddydd Llun Digalon â chynnig arbennig a ddarperir ar y cyd â Chanolfan Hamdden Abertawe.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.