Dewch i gwrdd â thîm Traveline Cymru yn un o Ffeiriau’r Glas!
Wrth i’r rheini sydd newydd adael yr ysgol baratoi i hedfan dros y nyth ac ymuno â dathliadau Wythnos y Glas yn eu prifysgol, bydd Traveline Cymru yn teithio o gwmpas prifysgolion Cymru er mwyn helpu myfyrwyr i wybod sut mae mynd o le i le.
Rhai newidiadau lleol i’r cynllun sy’n caniatáu i bobl deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru ar benwythnosau.
Mae’r cynllun sy’n caniatáu i bobl deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru ar benwythnosau yn dal i weithredu ar draws y gwasanaeth T14, ond o ddydd Sadwrn 15 Medi ymlaen bydd yn rhaid i deithwyr lleol sy’n teithio rhwng Abaty Belmont a Henffordd dalu’r prisiau arferol am eu tocynnau bws.
Angen gwirfoddolwyr! Cysylltu Cymunedau yng Nghymru
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda’ch darparwr cludiant cymunedol lleol fel gyrrwr, cynorthwyydd teithio, cyfaill teithio, gweinyddwr neu ymddiriedolwr, gall Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru eich cysylltu.
Stagecoach yn Ne Cymru yn ystod Wythnos Dal y Bws yn hybu teithio ar y bws fel ffordd o wneud y defnydd gorau o amser teithwyr
Ymunodd Stagecoach yn Ne Cymru â’r grŵp trafnidiaeth gynaliadwy, Greener Journeys, i hybu manteision defnyddio’r bws yn ystod Wythnos Dal y Bws, a gynhaliwyd eleni am y bumed flwyddyn.
Cyfle am swydd allanol gyda’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol: Cyfarwyddwr Interim i Gymru
Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn chwilio am rywun sydd â phrofiad helaeth o weithio fel uwch-reolwr ac sydd â sgiliau rheoli prosiect cadarn i gyflawni rôl interim am gyfnod o 6 mis o leiaf, yn ystod cyfnod mamolaeth y Cyfarwyddwr.
Cyfle i gael swydd gyda Bus Users Cymru. Rheolwr Rhaglenni
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn aelod o dîm Bus Users UK yng Nghymru. Byddai’r swydd am gyfnod penodol o 6 mis gyda’r posibilrwydd o gael swydd barhaol wedyn.
Mae PTI Cymru, y corff ymbarél sy’n rhedeg Contact Centre Cymru a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi penodi dau aelod newydd i’w fwrdd cyfarwyddwyr.
Her Feicio Cyclone24 Cymru. Ydych chi am fentro i’r felodrom yn 2018?
Bydd her feicio epig yn digwydd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru ar 21 a 22 Hydref eleni, lle bydd tîm o unigolion yn beicio’r naill ar ôl y llall dros gyfnod o 24 awr yn ddi-stop.
Ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Jo Foxall, yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn 2018
Llongyfarchiadau i’n Rheolwr Gyfarwyddwr, Jo, ar gyrraedd y rhestr fer a’r rownd derfynol yn y categori Cyfarwyddwr Newydd / Datblygol yng Ngwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru.
Anturiaethau wrth deithio yng nghefn gwlad Castell-nedd Port Talbot
Mae gwefan newydd sy’n hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot a hygyrchedd yr ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i lansio, sy’n eich galluogi i ddarganfod harddwch naturiol a rhyfeddodau cudd yr ardal gan ddefnyddio’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael.
Dylech sicrhau eich bod yn edrych i weld pa amserlenni y bydd eich gwasanaeth yn eu gweithredu dros benwythnos y Pasg, oherwydd bydd llawer o wasanaethau’n gweithredu amserlenni diwrnodau gwahanol.
Dros 36,000 o bobl yn troi at Traveline Cymru yn ystod y stormydd eira
Llwyddodd Traveline Cymru, y gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, i gadw Cymru i fynd yn ystod y problemau teithio diweddar pan gafodd y cwmni filoedd o alwadau ffôn ac ymholiadau ar-lein.
Ewch i’n tudalen Gwybodaeth am deithio adeg eira er mwyn gweld y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau wrth iddi ein cyrraedd.
Gallwch ein dilyn ar Twitter @TravelineCymru hefyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf, neu gallwch ein ffonio yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.