Cymerwch ran yn Wythnos Beicio i’r Ysgol 2021 gyda Sustrans
Caiff y digwyddiad hwn sy’n para wythnos ei drefnu gan Sustrans ac Ymddiriedolaeth Bikeability, ac mae’n annog teuluoedd i fynd i’r ysgol ar gefn beic a sgwter.
All Gwasanaethau Busnes newydd Traveline Cymru helpu eich sefydliad chi?
O hyfforddiant TravelineCymru+ ar-lein ynghylch sut mae defnyddio ein gwasanaethau gwybodaeth i Gynlluniwr Taith Aml-ddull newydd i’w roi ar eich gwefan.
Y diwydiant rheilffyrdd yn lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol
Bydd ymgyrch y diwydiant rheilffyrdd yn codi ymwybyddiaeth o beth yw aflonyddu rhywiol, yn annog pobl i adrodd am achosion ac yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw fannau anniogel ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Bws Caerdydd wedi’i ailfrandio cyn pen-blwydd y cwmni yn 120 oed
Un elfen allweddol o’r gwaith ailfrandio yw’r cynllun lliw oren, sy’n rhoi teyrnged i ymgyrch poblogaidd iawn a gafodd ei arwain gan y gweithredwr yn yr 1970au a’r 1990au.
Gwaith yn dechrau i gysylltu Canolfan Reoli Metro De Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd
Mae’r gwaith i gysylltu Canolfan Reoli Metro De Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd yn dechrau fis nesaf, yn barod ar gyfer y fflyd newydd gwerth £150m o drenau tram Metro.
Ramblers Cymru yn lansio prosiect newydd ‘Llwybrau i Lesiant’ er mwyn helpu i sicrhau bod cerdded yn rhan annatod o gymunedau
Mae Ramblers Cymru wedi cael cyllid gwerth £1.2 filiwn er mwyn rhoi i gymunedau ledled Cymru yr adnoddau a’r hyfforddiant y mae arnynt eu hangen i gyflawni gwaith cynnal a chadw ymarferol ar lwybrau a chynefinoedd a gwella ansawdd yr amgylchedd!
Gwasanaeth bws newydd T10 TrawsCymru o Fangor i Corwen
Dros y 12 mis nesaf, bydd y gwasanaeth bws T10, a ariennir gan Trafnidiaeth Cymru, yn gweithredu rhwng Bangor a Corwen gan alw at yr holl arhosfanau ar hyd y ffordd.
Wyddech chi? Gall plant a phobl ifanc deithio am ddim gyda Trafnidiaeth Cymru os byddant yn teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn
Gall plant dan 11 oed sy’n teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn deithio am ddim gyda Trafnidiaeth Cymru, a gall pobl ifanc dan 16 oed deithio am ddim y tu allan i oriau brig.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.