Ble mae dod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus os byddwch yn teithio dros yr ŵyl
Mae Traveline Cymru yn pwyso ar aelodau’r cyhoedd i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy fynd i’w dudalen bwrpasol ar gyfer Gwybodaeth ynghylch Teithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Ramblers Cymru yn cyhoeddi’r cymunedau a ddewiswyd i gymryd rhan yn y prosiect ‘Llwybrau i Lesiant’
Mae prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru, a arweinir gan gymunedau ac sy’n cael cyllid gwerth £1.2 filiwn, yn ceisio trawsnewid arferion cerdded a byd natur ar draws 18 o ardaloedd.
Traveline Cymru ar y rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrau UK Search Awards am ei ymgyrch ‘fynhaithiechyd’
Caiff seremoni wobrwyo UK Search Awards ei hystyried yn brif ddigwyddiad i glodfori’r gwaith a wneir ym maes Optimeiddio Peiriannau Chwilio, Talu Fesul Clic a marchnata cynnwys yn y DU.
Swyddog Rheilffordd Cymunedol newydd wedi’I benodi ar gyfer rhwydwaith De Orllewin Cymru
Penodwyd Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd gan South West Wales Connected, Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol a sefydlwyd i gefnogi'r cymunedau ar hyd y rheilffyrdd ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Gwaith ar Fetro De Cymru yn parhau rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd rhwng 23 Hydref a 27 Hydref
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trawsnewidiol ar gyfer Metro De Cymru gyda gwaith rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd.
Disgwylir y bydd streiciau gan yrwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn amharu ar wasanaethau yng Nghoed-duon, Bryn-mawr, Pont-y-pŵl a Chwmbrân o ddydd Mawrth 19 Hydref ymlaen
Ni fydd y streiciau’n effeithio ar wasanaethau ar draws Aberdâr, tref Caerffili (ar wahân i wasanaeth 26), Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Dweud eich dweud: Cyngor Caerdydd yn lansio ymgynghoriad wyth wythnos ynghylch ‘Strategaeth Fysiau’ er mwyn gwella gwasanaethau bws yn y ddinas
O 18 Hydref ymlaen am wyth wythnos, gall aelodau’r cyhoedd rannu eu barn am strategaeth naw pwynt Cyngor Caerdydd i wella gwasanaethau yn yr ardal ar gyfer preswylwyr a chymudwyr.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.