Problemau teithio

Gweithredu diwydiannol - Mai 2024

Mae’r undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y bydd 16 o Gwmnïau Gweithredu Trenau (heb gynnwys TrC) yn cynnal gweithredu diwydiannol rhwng dydd Mawrth 7 Mai - dydd Iau 9 Mai a gwaharddiad ar oramser o ddydd Llun 6 Mai i dydd Sadwrn 11 Mai.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF.

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn gyfyngedig. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

Bydd y gweithredu diwydiannol hwn yn effeithio ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth 7 Mai (c2c, Greater Anglia, GTR Great Northern Thameslink, Southeastern, Southern/Gatwick Express, Gyrwyr prif reilffordd a depo South Western Railway, and SWR Island Line)
  • Dydd Mercher 8 Mai (Avanti West Coast, Chiltern Railways, CrossCountry, East Midlands Railway, Great Western Railway and West Midlands Trains)
  • Dydd Iau 9 Mai (LNER, Northern Trains, and TransPennine Trains)

Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.

Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.

  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
  • I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
  • I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
  • Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl