Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ehangu’r gwasanaeth fflecsi yn Sir Benfro, gan alluogi mwy o gymunedau ledled y sir i elwa ar drafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd cam arall ymlaen yn rhoi Metro De Cymru ar waith drwy osod mwy na 6,500 metr o wifrau trydaneiddio uwchben dros y Nadolig.
Rhybudd i deithwyr rheilffordd De Cymru i wirio cyn teithio oherwydd gwaith peirianyddol
Mae teithwyr rheilffordd yn Ne Cymru yn cael eu rhybuddio i wirio cyn teithio wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) wneud gwaith peirianyddol rhwng Caerdydd a’r Cymoedd.
Gwaith i ddatrys problemau diogelwch yn dechrau ar Bont Menai
Heddiw, 5 Ionawr 2023, mae’r gwaith i ailagor Pont Menai yn dechrau. Mae disgwyl i'r rhaglen waith gael ei chwblhau o fewn 4 wythnos, ar yr amod bod y tywydd yn ffafriol.
Strategaeth 5 Mlynedd ar gyfer Trafnidiaeth yng Nghymru
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi Strategaeth Gorfforaethol bum mlynedd sy’n amlinellu sut y bydd yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.
Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau Noswyl Nadolig yn ofalus a dim ond teithio ar y trên os oes gwir angen gan y bydd gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dod i ben yn gynnar.
Ho-ho-hopiwch ar y bws i deithio am ddim ar y penwythnos wrth i ni nesáu at y Nadolig
Dyma amser mwyaf bendigedig y flwyddyn… i ddal bws! Mae siopwyr a chymudwyr Sir Fynwy yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i helpu’r sir fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â Menywod mewn Trafnidiaeth i lansio Hyb Cymreig newydd a fydd yn grymuso menywod yn y diwydiant i wneud y gorau o’u potensial.
Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus ddydd Sadwrn yma (26 Tachwedd) gan y bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia ar 26 Tachwedd yng Nghaerdydd
Bydd Cymru'n herio Awstralia ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 3.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11.15am tan 7.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Arriva yn cynnig teithiau am ddim ar Sul y Cofio i filwyr sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a chadetiaid
Mae Arriva yn cynnig teithiau am ddim ar fysiau i aelodau presennol a blaenorol o’r Lluoedd Arfog, a hynny ar ei wasanaethau ym mhob rhanbarth ddydd Sul 13 Tachwedd.
I nodi Dydd y Cofio a Sul y Cofio, mae Bws Caerdydd yn cynnig teithiau am ddim i’r sawl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol, fel arwydd o ddiolch am y gwasanaeth y mae’r milwyr a’r cyn-filwyr anhunanol hyn yn ei roi.
First Bus yn cynnig teithiau am ddim ar Ddydd y Cofio a Sul y Cofio
Mae First Bus yn cynnig teithiau am ddim ar bob gwasanaeth i filwyr sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cadetiaid a chyn-filwyr ar Ddydd y Cofio (dydd Gwener 11 Tachwedd) a Sul y Cofio (13 Tachwedd) er mwyn iddynt allu mynychu digwyddiadau coffáu. Mae’r cynnig yn cynnwys bysiau pob gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau Clipper pellter hir.
Stagecoach yn ymestyn teithiau am ddim ledled y DU i gyn-filwyr ac aelodau’r fyddin, gan gynnwys cadetiaid, ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio
Mae Stagecoach wedi cadarnhau ei ymrwymiad parhaus i’r lluoedd arfog drwy ymestyn ei bolisi newydd o deithiau am ddim ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau’r fyddin fel ei fod yn cynnwys cadetiaid sy’n dymuno mynychu gwasanaethau coffáu. Bydd teithiau am ddim ar gael ar wasanaethau bws a thram y cwmni ar draws y DU ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.