HSBC Direct Abertawe
HSBC Direct Abertawe yw un o gyflogwyr mwyaf Parc Menter Abertawe gan gyflogi dros 1,000 o staff ac yn cartrefu isafswm o 750 o bobl ar y safle’n ddyddiol.
Y mae HSBC wedi ennill lefel Platinwm yn y Wobr Cynllun Teithio Cymreig mewn cydnabyddiaeth o’u llwyddiant parhaus a mentergarwch mewn cynllunio teithio. Cyflwynwyd y wobr iddynt yn seremoni wobrwyo SWWITCH (South West Wales Integrated Transport Consortia) ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys ar y 5ed o Fawrth 2012. Mae eu cynllun teithio yn cydnabod cyfrifoldeb busnes HSBC i hyrwyddo a chefnogi’n weithredol unrhyw fodd o gludiant cynaliadwy sy’n gwella mynediad i waith ac effeithiau positif ar yr amgylchedd naturiol lleol.
Trwy bartneriaeth bositif gyda Traveline Cymru a SWWITCH, hyfforddodd HSBC 15 Pencampwr Teithio Doeth yn llwyddiannus yn 2011, sydd yn gallu dosbarthu gwybodaeth cludiant cynaliadwy i gyd-weithwyr. Y mae lluniau’r pencampwyr wedi’u postio ar hysbysfwrdd y cynllun teithio fel y gall staff eraill gysylltu â nhw gydag unrhyw ymholiad cludiant perthnasol.
Y mae HSBC wedi gwella tagiadau ar-lein a materion parcio ceir drwy gynnal gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim o Stadiwm Liberty gerllaw. Y mae rota parcio a theithio yn golygu bod pob aelod o staff yn cymryd tro i barcio oddi ar y safle neu ar y safle. Mae mannau parcio gwarantedig ar gael i rai sy’n rhannu ceir.
Lansiwyd grŵp rhannu ceir mewnol Tŷ Dyffryn HSBC yn 2011, ac y mae wedi profi’n llwyddiant ysgubol drwy gyplysu partneriaid rhannu ceir i gyflawni arbedion enfawr! Y mae cymudwyr HSBC wedi arbed cyfanswm anhygoel o £36,082.24, 39940kg o allyriadau co2, a 1760 o goed!
Darperir hefyd ofodau parcio beiciau modur a storio beics ar gyfer staff sy’n teithio trwy’r dulliau hyn, a chynigir cymhellion yn ystod digwyddiadau cenedlaethol, megis wythnos Beicio i’r Gwaith. Cynhaliwyd MOTiau ar gyfer beiciau yn 2011 mewn cydweithrediad â sioeau ar daith a hyrwyddai’r llwybrau beicio a cherdded gorau. Anogir teithio ar gludiant cyhoeddus at ddibenion busnes ac mae gwybodaeth amserlenni cywir ar gael, ynghyd â hyrwyddiant gwasanaethau Traveline Cymru.
Cefnogir y mesurau hyn gan lawer mwy, gan gynnwys ceir cydrannu, cynadledda ffôn/fideo, gwasanaeth porthor, siop/bwyty ar y safle, seddau y tu allan, adwerthwyr yn ymweld, caffi’r we, cynghorydd gyrfaoedd, ac ystafell gemau. Y mae’r mesurau hyn yn lleihau’r angen i bobl deithio yn ystod y diwrnod gwaith ac y maent wedi profi i fod yn werth chweil.