Astudiaeth Achos Fideo Working Links
Mae Amie Hall, Cydlynydd Partneriaeth a Darpariaethau Working Links yn y gogledd, yn sôn am y prosiect y mae’r cwmni yn ei gyflwyno ar draws Cymru. Mae’r prosiect yn golygu cydweithio â Traveline Cymru a Chydlynwyr Cynlluniau Teithio i sicrhau bod staff allweddol sy’n gweithio gyda cheiswyr gwaith yn cael hyfforddiant ar sut i gael gafael ar wybodaeth am deithio. Mae’r staff hyn yn gweithio gyda cheiswyr gwaith i’w helpu i ddod o hyd i wybodaeth er mwyn eu galluogi i fynychu cyfweliadau a chael swyddi.