Astudiaeth Achos Fideo Virgin Media
Mae Michelle Beech, Rheolwr Safle Virgin Media ar Barc Menter Abertawe, yn sôn am yr amryw fentrau a ddefnyddir gan y cwmni er mwyn cynorthwyo ei weithwyr a darpar weithwyr i ganfod opsiynau ar gyfer teithio i’r gwaith. Fel sefydliad sydd â gweithwyr cymharol ifanc, nad oes gan bob un ohonynt gar, mae Virgin yn cydweithio’n agos â Traveline Cymru a Chydlynydd Cynlluniau Teithio SWWITCH i ddarparu gwybodaeth am deithio, hyfforddiant a digwyddiadau i’w weithwyr er mwyn cynorthwyo i ddiwallu eu hanghenion o ran teithio i’r gwaith.