Astudiaeth Achos Fideo Chwarae Teg
Mae Ann Elliot, Rheolwr Adnoddau Chwarae Teg, yn sôn am sut y mae’r busnes – sydd â safleoedd ym mhob rhan o Gymru – yn annog ei weithwyr i deithio’n gynaliadwy gan ddefnyddio trenau neu rannu ceir, er enghraifft, wrth deithio o’r naill safle i’r llall. Mae’r cwmni wedi ymrwymo i hybu Gwobr y Ddraig Werdd a lleihau ei ôl troed carbon. Mae Traveline Cymru yn gobeithio cydweithio’n agos â Chwarae Teg yn y dyfodol er mwyn darparu opsiynau teithio cynaliadwy i’w weithwyr.