Astudiaeth Achos Fideo Bws Casnewydd
Mae Noel Davies, cyn-Reolwr Marchnata Bws Casnewydd, yn sôn am sut y mae’r cwmni yn cydweithio’n agos â Traveline Cymru i sicrhau bod llawer o wybodaeth bwysig am deithio’n cael ei rhoi i’w gwsmeriaid. Mae’r gwaith yn cynnwys cynnal partneriaeth gref gyda chymorth cyfryngau cymdeithasol y mae cwsmeriaid yn dibynnu arnynt pan fydd trafferthion yn tarfu ar drafnidiaeth neu pan fydd y tywydd yn arw, sicrhau bod cynlluniwr taith Traveline Cymru yn cael ei gynnwys ar wefan Bws Casnewydd, a chefnogi amryw ddigwyddiadau busnes ac addysg sy’n tynnu sylw aelodau’r cyhoedd at y gwasanaethau a ddarperir ar y cyd.