Stagecoach yn lansio rhaglen les arloesol ar gyfer el weithwyr bysiau yn y du
18 Hydref 2018- Y cwmni trafnidiaeth cyntaf i gyflwyno cynllun lles i staff ar draws y DU
- Rhaglen dechrau arni sy’n para 8 wythnos ac sy’n ymdrin â lles corfforol a meddyliol
- Datblygwyd y prosiect gan yr hyfforddwr lles Ellie Hopley a chaiff ei gefnogi gan y seren deledu Ferne McCann
Mae cwmni trafnidiaeth Stagecoach wedi lansio rhaglen ffitrwydd a lles arloesol ar gyfer ei weithwyr bysiau yn y DU.
Nod y cynllun #LlesWrthYLlyw, y mae’r staff yn ei ddilyn gartref, yw helpu staff Stagecoach i wella eu hiechyd corfforol ac emosiynol trwy gyfres o fideos sy’n ymdrin ag ymarfer corff ac agweddau eraill ar les, gan gynnwys maeth, yfed digon o ddŵr, rheoli straen, gosod nodau, hyder a rheoli cwsg.
Cafodd y rhaglen – a lansiwyd yn ystod Wythnos Les a Diogelwch Stagecoach – ei llunio’n benodol ar gyfer gweithwyr Stagecoach gan yr hyfforddwr lles Ellie Hopley, ac mae’n debyg mai Stagecoach yw’r cwmni trafnidiaeth cyntaf i gyflwyno menter lles staff ar draws y DU gyfan.
Mae’r cwmni eisoes wedi treialu’r cynllun gyda grŵp o oddeutu 100 o weithwyr, ac roedd y sawl a gymerodd ran wedi cyflawni canlyniadau arbennig yn unol â’u hamcanion unigol, a oedd yn cynnwys colli pwysau, gwella lefelau ffitrwydd a chael mwy o hyder.
Soniodd y gweithwyr eu bod wedi colli pwysau, eu bod yn teimlo’n fwy heini, eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd am y tro cyntaf, eu bod yn mynychu dosbarthiadau cadw’n heini newydd, eu bod yn profi manteision i’w hiechyd a’u bod yn teimlo’n fwy hyderus.
Er mwyn cyflwyno’r rhaglen i’r 24,000 o weithwyr bysiau sydd gan y cwmni yn y DU, mae cyfres o fideos wedi’u recordio a fydd ar gael i staff trwy fewnrwyd y cwmni. Mae’r fideos hyn – sydd hefyd yn cynnwys gweithwyr Stagecoach – yn cynnwys cynllun ymarfer corff 8 wythnos yn ogystal â chyngor ynghylch pob agwedd ar les. Yn ogystal, bydd modd i weithwyr gael gafael ar ganllaw lles a chynllun ymarfer corff yn electronig ar fewnrwyd y staff neu ar ffurf llyfryn. Bydd ganddynt fynediad i fideos cadw’n heini, fideos sy’n rhoi arweiniad ynghylch lles a diweddariadau cynnydd er mwyn sicrhau eu bod ar y trywydd iawn o ran gwella eu lles.
Meddai’r cyflwynydd teledu a seren y fideos Ferne McCann, a ddysgodd sut i yrru bws gyda Stagecoach: “Mae hon yn fenter ardderchog, ac mae’n wych bod Stagecoach yn sicrhau bod y rhaglen hon ar gael i gynifer o weithwyr. Rwyf wedi rhoi cynnig ar y rhaglen, ac mae’n gweithio, felly hoffwn ddymuno’n dda i bawb ar yr heol at fod yn heini, gan obeithio y byddant yn mwynhau’r daith.”
Meddai’r hyfforddwr lles Ellie Hopley: “Mae’n fraint cael cyfle i gyflwyno’r rhaglen les hon i filoedd o staff Stagecoach, ac rwyf wrth fy modd o gael bod yn rhan o’r prosiect hwn.
“Mae gofalu am ein lles ein hunain yn bwysig iawn, a gall wella pob agwedd ar ein bywyd. Os byddwn ni’n fwy iach, heini a chryf, gall hynny gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl. Gall hefyd ein helpu ni i wneud penderfyniadau gwell a gwneud ein gwaith yn well.
“Gogoniant y rhaglen hon yw bod modd ei dilyn gartref, yn eich amser eich hun ac ar eich lefel eich hun, felly rwy’n gobeithio’n fawr y bydd staff Stagecoach yn manteisio ar y rhaglen, yn ei mwynhau ac yn gweld y budd.”
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter: “Mae llesiant ein staff yn bwysig iawn. Mae pob un ohonom yn treulio cyfran helaeth o’n bywyd yn y gwaith, felly mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein gilydd ac yn gofalu am ein hiechyd. Mae’r fenter hon yn enghraifft arall o’r camau arloesol yr ydym yn eu cymryd ym maes lles, ac rydym yn gobeithio y bydd y gweithwyr yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn i ddarganfod rhagor am sut i fod yn iach ac yn hapus.”
Mae’n bwysig cydnabod bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol. Mae’n Wythnos Les a Diogelwch Stagecoach yr wythnos hon, sy’n rhan o ymgyrch pedair wythnos y Grŵp – Cyflawni gyda’n Gilydd. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar feysydd allweddol, sef gwasanaeth i gwsmeriaid, diogelwch, lles, y gymuned, yr amgylchedd a chynhwysiant. I gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl ar 10 Hydref 2018, mae Stagecoach yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ar Twitter a dileu’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Mae’r stigma hwn yn atal pobl rhag cael y cymorth y mae ei angen arnynt, felly rydym yn annog pob gweithiwr i ddefnyddio mewnrwyd y staff wrth i ni fynd ati’n rheolaidd i ddiweddaru’r cynnwys ar iechyd meddwl, sy’n cynnwys sut i ymdopi â straen a gorbryder yn y gweithle. Rydym yn gobeithio y bydd yr adrannau hyn a’r posteri a gaiff eu harddangos o gwmpas y depo yn helpu ein gweithwyr i ddeall pwysigrwydd lles, ac i ddeall sut y gallwch roi hwb i’ch hunan-barch a’ch hyder drwy ofalu am eich hun yn gorfforol ac yn feddyliol.
Gellir gweld y fideo sy’n hyrwyddo’r ymgyrch yma.