Mae Traws Cymru yn gwneud ambell newid i’w rwydwaith!
29 Awst 2018Gwasanaeth NEWYDD a fydd yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yw TrawsCymru T14, a fydd yn cyflwyno gwasanaeth amlach rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ac a fydd yn cynnig gwasanaeth uniongyrchol o Gaerdydd, Pontypridd a Merthyr Tudful i Aberhonddu, Y Gelli a Henffordd.
Yn ogystal, bydd amserlen newydd ar ddydd Sul ar gyfer Caerdydd – Pontypridd – Merthyr Tudful – Aberhonddu yn rhan o wasanaeth T4 TrawsCymru. Bydd gwasanaeth X4 ar ddydd Sul yn dod i ben a bydd gwasanaeth 39 yn cael ei ddisodli’n gyfan gwbl gan y gwasanaeth T14 newydd.
Mae Cyngor Sir Powys hefyd wedi dyfarnu contractau i Tanant Valley Coaches a Lloyds Coaches ar gyfer y gwasanaeth T12 newydd a fydd yn cysylltu Machynlleth a Wrecsam â’i gilydd.
Mae’r manylion ar gyfer y gwasanaeth T4, T14 ac X4 cyfun NEWYDD i’w gweld yma