Gyrrwr bysiau’n ennill gwobr ‘Diolch Drive’ am wasanaethau i gwsmeriaid
24 Awst 2015Mae First Cymru a Bus Users Cymru yn dathlu llwyddiant y ddau a ddaeth i’r brig gan ennill gwobr ‘Diolch Drive’ am wasanaethau i gwsmeriaid, dan gynllun a drefnwyd gan First Cymru. Bydd Justin Davies (Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru) yno gyda Margaret Everson (Cyfarwyddwr, Bus Users Cymru) i gyflwyno’r gwobrau.
Roedd y beirniaid wedi’i chael hi’n anodd dewis un enillydd, a phenderfynwyd gwobrwyo dau yrrwr yn y pen draw.
Mae Ryan Coslett, sy’n gweithio o Bort Talbot, yn gyrru bysiau rhwng Port Talbot, Castell-nedd ac Abertawe a chafodd ei enwebu gan Louise Powell, a ddywedodd “Os yw’n gweld fy ngŵr a minnau’n rhuthro i ddal y bws, bydd yn aros i ni...mae ganddo wên ar ei wyneb bob amser ni waeth beth sy’n digwydd. Mae e’n gwneud y daith yn fwy pleserus.”
Lansiodd First Cymru wobrau Diolch Drive er mwyn cydnabod gyrwyr First Cymru ar draws y de sy’n gwneud ychydig yn fwy na’r disgwyl i sicrhau gwasanaeth heb ei ail i gwsmeriaid.
Lansiwyd y gwobrau yn ystod Wythnos Dal y Bws ac roedd cyfle i gwsmeriaid enwebu gyrwyr ar-lein drwy gydol mis Gorffennaf. Bydd yr enillwyr yn cael tystysgrif ‘Diolch Drive’ arbennig yn ogystal â gwerth £100 o dalebau i’w gwario mewn siop o’u dewis nhw. Bydd yr unigolyn a enwebodd y gyrrwr buddugol yn cael gwobr hefyd, sef cyfnod o deithio yn rhad ac am ddim ar y rhwydwaith bysiau lleol.
Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cynifer o enwebiadau ar gyfer ein Gwobrau Diolch Drive cyntaf erioed. Mae ein henillwyr yn gaffaeliad i’n busnes. Mae Ryan a Phil yn glod i’w gorsafoedd.”
Aeth yn ei flaen i ddweud: “Rydym am barhau i wella safonau gwasanaethau i gwsmeriaid ymysg ein gyrwyr, ac mae’r gwobrau hyn yn ffordd wych o gydnabod a gwobrwyo’r sawl sydd eisoes yn darparu gwasanaeth heb ei ail. Rydym yn sylweddoli nad ydym bob amser yn cael popeth yn iawn, ac rydym yn ceisio cymryd camau priodol os byddwn yn dod i wybod am unigolion sy’n gwneud llai na’r disgwyl. Ar y llaw arall, mae gyrwyr tebyg i Ryan, Phil a’r holl yrwyr eraill a gafodd eu henwebu’n dangos bod llawer o’n gyrwyr yn gweithio’n galed i sicrhau bod teithio ar fysiau’n brofiad mwy pleserus i’n teithwyr, ac maen nhw’n haeddu cael eu cydnabod.”