Cynlluniwr Taith
Bydd newidiadau byr rybudd i amserlenni’n cael eu hychwanegu at ein tudalen problemau teithio ‘Diweddariadau Byr Rybudd am Wasanaethau’ yn lle’r dudalen am y Coronafeirws. Cofiwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf cyn i chi deithio.
Mae’n flin gennym, ond ni ddaethom o hyd i unrhyw deithiau a oedd yn cyfateb i’ch dewis. Rhowch gynnig ar yr opsiynau canlynol:
-
Newidiwch amser eich taith.
Efallai fod yr amser yr ydych wedi’i ddewis yn rhy gynnar neu’n rhy hwyr i wasanaethau fod ar gael. Ceisiwch ddewis amser cynharach neu hwyrach yn y dydd.
Sylwch nad oes modd cynllunio teithiau dros 2 fis ymlaen llaw.
-
Cynyddwch nifer y newidiadau i ‘Dim cyfyngiad’.
Sylwch y gallai fod angen newid fwy nag unwaith i gyrraedd pen eich taith.
-
Os ydych wedi dewis ‘Trên yn unig’ neu ‘Bws yn unig’, dewiswch y botwm ‘Pob dull o deithio’ ar gyfer teithiau lle mae angen defnyddio mwy nag un gwasanaeth.
Gwasanaethau cysylltiol
Efallai na fyddwch yn gweld canlyniadau ar gyfer eich taith os oes mwy na 2 awr o fwlch rhwng gwasanaethau cysylltiol. Diben hynny yw atal pobl rhag gorfod aros dros nos mewn gorsafoedd bysiau a threnau. Mae hynny’n berthnasol hefyd i gysylltiadau lle ceir llai na 5 munud o fwlch rhwng y gwasanaethau.
Teithiau y tu allan i Gymru
Sylwch na fydd teithiau bws yn ymddangos ar gyfer mannau sydd dros 30 cilomedr y tu allan i Gymru. Ar gyfer teithiau y tu allan i Gymru, ewch i wefan Traveline UK i gynllunio eich taith.
Nid oes modd dod o hyd i’r lleoliad
Yn anffodus, efallai na fydd modd dod o hyd i’r lleoliad a nodwyd gennych. Anfonwch ebost atom yn feedback@traveline.cymru i ofyn am i’ch lleoliad gael ei ychwanegu.
Defnyddio cod post?
Sylwch na fydd defnyddio cod post i nodi man cychwyn neu fan gorffen eich taith efallai’n arwain at ddangos gwasanaeth bob amser. Ceisiwch nodi lleoliad gerllaw yn lle hynny.
Dim canlyniadau o hyd?
Yn anffodus, efallai nad oes llwybr trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar gyfer eich dewis. Fodd bynnag, dyma gynlluniau a allai eich helpu i gyrraedd pen eich taith:
-
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol
Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn cynnig dull diogel, hygyrch, hyblyg a chost-effeithiol o deithio a gaiff ei redeg gan y gymuned er mwyn y gymuned. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
-
Bysiau fflecsi Trafnidiaeth Cymru
Mae bysiau fflecsi yn cynnig dull amgen o deithio. Bydd bws yn eich casglu ac yn eich gollwng yn unol â’ch cais, a bydd yn newid ei lwybr fel bod pawb yn gallu cyrraedd y lle y mae angen iddynt deithio iddo. Ar hyn o bryd mae bysiau fflecsi yn gweithredu yn ardaloedd Dyffryn Conwy, Sir Benfro, Casnewydd, Gogledd Caerdydd, y Rhondda, Prestatyn a Dinbych. I gael rhagor o wybodaeth ac archebu eich taith, ewch i wefan fflecsi.
-
Parcio a theithio
Mae gwasanaethau parcio a theithio’n ffordd rwydd a chyfleus o deithio heb orfod poeni am yrru neu barcio yng nghanol y dref. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau parcio a theithio i’w chael yma.
-
Tacsis
I weld manylion cyswllt cwmnïau tacsis a chwmnïau hurio preifat yn eich ardal, ewch i’n tudalen Gwybodaeth am deithio’n ddiogel.
Ffoniwch ein rhif rhadffôn 0800 464 0000 os hoffech gael rhagor o gyngor am deithiau. Mae’r llinell ffôn ar agor rhwng 7am ac 8pm bob dydd*.
*Gwasanaeth cyfyngedig sydd ar gael ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan.